6. Gwna arwyddion newydd a rhyfeddodau gwahanol,i ddangos gogoniant dy law a'th fraich dde.
7. Deffro dy lid a thywallt dy ddigofaint;difroda dy wrthwynebwyr a difa dy elyn.
8. Prysura'r dydd a chofia dy lw; a phâr i bobl draethu dy fawrion weithredoedd.
9. Gad i dân dy ddigofaint ysu'r neb a gais ddianc,ac i golledigaeth oddiweddyd gorthrymwyr dy bobl.
10. Dryllia bennau tywysogion ein gelynion,sy'n dweud, “Nid oes neb ond nyni.”
11. Cynnull ynghyd holl lwythau Jacob,a chymer hwy'n etifeddiaeth iti, fel y gwnaethost gynt.
12. Trugarha, Arglwydd, wrth y bobl a elwir wrth dy enw,wrth Israel, a gymeraist fel dy gyntafanedig.
13. Tosturia wrth ddinas dy gysegr,wrth Jerwsalem, dy orffwysfa.