Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 36:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Arddel yn awr y rhai a greaist yn y dechreuad,a chyflawna'r proffwydoliaethau a gyhoeddwyd yn dy enw.

16. Gwobrwya'r rhai sy'n disgwyl wrthyt,a chaffer dy broffwydi yn eirwir.

17. Clyw, Arglwydd, weddi'r rhai sy'n ymbil arnat,yn ôl bendith Aaron i'th bobl.Yna caiff pawb sydd ar y ddaear wybodmai ti yw'r Arglwydd, y Duw tragwyddol.

18. Fe gymer y stumog bob math o fwyd,ond y mae rhagor rhwng bwyd a bwyd mewn blas.

19. Fel y mae'r genau'n blasu cig yr helfa,y mae meddwl deallus yn synhwyro geiriau celwyddog.

20. Y mae meddwl gwrthnysig yn peri gofid,ond gall y profiadol ei dalu'n ôl.

21. Fe gymer benyw bob math o ddyn yn ŵr,ond y mae rhagor rhwng merch a merch mewn gwerth.

22. Y mae prydferthwch benyw yn sirioli wyneb dyn,ac yn peri chwant dwysach na dim arall.

23. Os yw ei thafod yn garedig ac addfwyn,nid yw ei gŵr yn safle'r rhelyw o ddynion.

24. A gymero wraig a ddaw'n berchen golud,ymgeledd cymwys iddo a cholofn i bwyso arni.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 36