Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 36:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Tosturia wrth ddinas dy gysegr,wrth Jerwsalem, dy orffwysfa.

14. Llanw Seion â'th folianta'th bobl â'th ogoniant.

15. Arddel yn awr y rhai a greaist yn y dechreuad,a chyflawna'r proffwydoliaethau a gyhoeddwyd yn dy enw.

16. Gwobrwya'r rhai sy'n disgwyl wrthyt,a chaffer dy broffwydi yn eirwir.

17. Clyw, Arglwydd, weddi'r rhai sy'n ymbil arnat,yn ôl bendith Aaron i'th bobl.Yna caiff pawb sydd ar y ddaear wybodmai ti yw'r Arglwydd, y Duw tragwyddol.

18. Fe gymer y stumog bob math o fwyd,ond y mae rhagor rhwng bwyd a bwyd mewn blas.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 36