Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 31:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Daeth llawer i'w cwymp o achos aur,a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.

7. Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo,a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.

8. Gwyn ei fyd y cyfoethog na chafwyd bai ynddo,ac na wnaeth aur yn ddiben ei fyw.

9. Pwy yw ef, i ni ei alw'n wynfydedig?Oherwydd gwnaeth ryfeddodau ymhlith ei bobl.

10. Pwy a brofwyd fel hyn a'i gael yn berffaith?Y mae gan hwnnw le i ymffrostio.Pwy, a'r gallu ganddo i droseddu, na throseddodd,na gwneud drwg pan allai ei wneud?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 31