Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 31:25-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Paid ag ymwroli â gwin,oherwydd distryw fu gwin i lawer.

26. Fel y profir dur gan ffwrn a dŵr,felly y profir cymeriad gan win pan fydd beilchion yn ymryson.

27. Y mae gwin yn fywyd i rywuno'i yfed ym gymesur.Beth yw bywyd i rywun heb win?Onid er llawenychu pobl y crewyd ef?

28. Llonder calon a llawenydd ysbrydyw gwin, o'i yfed yn gymedrol ac yn ei bryd.

29. Ond o'i yfed yn ormodol ceir chwerwder ysbryd,a chythruddo a chynhennu.

30. Y mae medd-dod yn chwyddo dicter ffŵl i'w niwed ei hun,yn gwanychu ei nerth ac yn amlhau ei glwyfau.

31. Paid â cheryddu dy gymydog mewn cyfeddach,na'i fychanu yng nghanol ei lawenydd;paid â dweud gair gwawdlyd wrtho,na phwyso arno i dalu'n ôl ei ddyled.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 31