Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 31:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Y mae anhunedd pryderus yn rhwystro hepian,fel y mae afiechyd blin yn tarfu cwsg.

3. Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud,a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.

4. Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin,a phan beidia, bydd mewn angen.

5. A gâr aur, nis cyfrifir yn gyfiawn;a gais elw, nid union fydd ei lwybr.

6. Daeth llawer i'w cwymp o achos aur,a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.

7. Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo,a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 31