Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 31:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae anhunedd o achos cyfoeth yn bwyta'r cnawd,a phryder amdano'n cadw cwsg draw.

2. Y mae anhunedd pryderus yn rhwystro hepian,fel y mae afiechyd blin yn tarfu cwsg.

3. Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud,a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.

4. Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin,a phan beidia, bydd mewn angen.

5. A gâr aur, nis cyfrifir yn gyfiawn;a gais elw, nid union fydd ei lwybr.

6. Daeth llawer i'w cwymp o achos aur,a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.

7. Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo,a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.

8. Gwyn ei fyd y cyfoethog na chafwyd bai ynddo,ac na wnaeth aur yn ddiben ei fyw.

9. Pwy yw ef, i ni ei alw'n wynfydedig?Oherwydd gwnaeth ryfeddodau ymhlith ei bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 31