1. Y mae anhunedd o achos cyfoeth yn bwyta'r cnawd,a phryder amdano'n cadw cwsg draw.
2. Y mae anhunedd pryderus yn rhwystro hepian,fel y mae afiechyd blin yn tarfu cwsg.
3. Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud,a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.
4. Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin,a phan beidia, bydd mewn angen.
5. A gâr aur, nis cyfrifir yn gyfiawn;a gais elw, nid union fydd ei lwybr.
6. Daeth llawer i'w cwymp o achos aur,a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.
7. Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo,a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.
8. Gwyn ei fyd y cyfoethog na chafwyd bai ynddo,ac na wnaeth aur yn ddiben ei fyw.
9. Pwy yw ef, i ni ei alw'n wynfydedig?Oherwydd gwnaeth ryfeddodau ymhlith ei bobl.
10. Pwy a brofwyd fel hyn a'i gael yn berffaith?Y mae gan hwnnw le i ymffrostio.Pwy, a'r gallu ganddo i droseddu, na throseddodd,na gwneud drwg pan allai ei wneud?
11. Bydd ei ffyniant ar seiliau cadarn,a'i elusengarwch yn destun mawl i'r gynulleidfa.
12. Pan fyddi'n eistedd wrth fwrdd llwythog,paid â rhythu'n geg-agored arno,na dweud, “Dyma beth yw gwledd!”
13. Cofia mai peth pechadurus yw llygad gwancus.A oes dim gwaeth na'r llygad wedi ei greu?Dyna pam y mae ei ddagrau ar bob wyneb.
14. Paid ag estyn dy law at bopeth a lygadi,nac ymgiprys amdano wrth y ddysgl.
15. Barna angen dy gymydog wrth yr eiddot dy hun,a bydd yn ystyriol ohono ym mhob peth.