Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 23:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. O Arglwydd, fy Nhad a Duw fy mywyd,paid â'm gwneud yn drahaus fy edrychiad,

5. ac ymlid oddi wrthyf bob trachwant.

6. Na foed i lythineb na blys gael gafael ynof,a phaid â'm traddodi i reolaeth nwyd digywilydd.

7. Gwrandewch, feibion, sut i ddisgyblu'r genau;ni rwydir neb sydd ar ei wyliadwriaeth.

8. Wrth ei wefusau y delir pechadur,a thrwyddynt hefyd y daw cwymp i'r difenwr a'r balch.

9. Paid ag arfer dy enau i dyngu llw,a phaid â chynefino â dweud enw'r Un sanctaidd.

10. Oherwydd fel na fydd gwas a ffangellir yn barhausyn brin o gleisiau,felly ni chaiff y sawl sy'n tyngu o hyd yn enw Duwei lanhau oddi wrth bechod.

11. Un aml ei lwon, un llawn o anghyfraith;ni bydd y fflangell ymhell o'i dŷ ef.Os trosedda, caiff ddwyn baich ei bechod;os bydd yn esgeulus, bydd wedi pechu'n ddauddyblyg;os tyngodd yn ofer, ni bydd cyfiawnhad iddo,oherwydd llenwir ei dŷ â thrallodion.

12. Y mae math o siarad sy'n cyfateb i farwolaeth.Na foed lle iddo ymhlith etifeddion Jacob!Pell fydd hyn oll oddi wrth y rhai duwiol;nid ymdrybaeddu mewn pechodau a wnânt hwy.

13. Paid â chynefino dy enau â siarad anllad ac amrwd,oherwydd pechu â geiriau y byddi felly.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 23