Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 23:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Y mae'r dyn sy'n sleifio o'i wely ei hunyn dweud wrtho'i hun, “Pwy sy'n fy ngweld?Y mae'n dywyll o'm hamgylch, a'r muriau'n fy nghuddio,ac ni all neb fy ngweld. Beth sydd gennyf i'w ofni?Ni sylwa'r Goruchaf ar fy mhechodau.”

19. Llygaid dynol y mae'n eu hofni;nid yw'n sylweddoli bod llygaid yr Arglwyddyn ddengmil disgleiriach na'r haul,a'u bod yn canfod holl ffyrdd poblac yn treiddio i'w mannau dirgel.

20. Yr oedd y cyfanfyd yn hysbys iddo er cyn ei greu,fel y mae hefyd ar ôl ei gwblhau.

21. Bydd y dyn hwn yn dwyn ei gosb yn heolydd y ddinas,a chaiff ei ddal mewn man na ddisgwyliodd erioed.

22. Felly y bydd hefyd i'r wraig a adawodd ei gŵrac a ddug etifedd o had dyn arall.

23. Oherwydd, yn gyntaf, bu'n anufudd i gyfraith y Goruchaf;yn ail, troseddodd yn erbyn ei gŵr;yn drydydd, godinebodd fel putain,gan ddwyn plant o had dyn arall.

24. Dygir y wraig hon allan gerbron y cynulliad,a bydd ymchwiliad ynglŷn â'i phlant hi.

25. Nid ymleda gwreiddiau ei phlant,ac ni ddwg ei changhennau ffrwyth.

26. Melltith fydd y goffadwriaeth y bydd hi'n ei gadael,ac ni ddileir ei gwaradwydd;

27. bydd y rhai a adewir ar ei hôl yn dysgunad oes dim rhagorach nag ofn yr Arglwydd,na dim melysach na chadw gorchmynion yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 23