Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 23:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Arglwydd, fy Nhad a Meistr fy mywyd,paid â'm gadael ar drugaredd eu cyngor hwy,na pheri imi gwympo o'u hachos.

2. Pwy a rydd ei ffrewyll ar fy meddyliau,a disgyblaeth doethineb ar fy neall,fel na bydd arbed ar fy nghamsyniadaunac esgusodi ar fy mhechodau?

3. Ni fynnwn i'm camsyniadau fynd ar gynnyddnac i'm pechodau amlhau,nac i minnau syrthio o flaen fy ngwrthwynebwyr,nac i'm gelynion grechwen am fy mhen.

4. O Arglwydd, fy Nhad a Duw fy mywyd,paid â'm gwneud yn drahaus fy edrychiad,

5. ac ymlid oddi wrthyf bob trachwant.

6. Na foed i lythineb na blys gael gafael ynof,a phaid â'm traddodi i reolaeth nwyd digywilydd.

7. Gwrandewch, feibion, sut i ddisgyblu'r genau;ni rwydir neb sydd ar ei wyliadwriaeth.

8. Wrth ei wefusau y delir pechadur,a thrwyddynt hefyd y daw cwymp i'r difenwr a'r balch.

9. Paid ag arfer dy enau i dyngu llw,a phaid â chynefino â dweud enw'r Un sanctaidd.

10. Oherwydd fel na fydd gwas a ffangellir yn barhausyn brin o gleisiau,felly ni chaiff y sawl sy'n tyngu o hyd yn enw Duwei lanhau oddi wrth bechod.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 23