8. Ffieiddir y sawl sy'n pentyrru gair ar air,a chaseir y sawl sy'n honni mai ef yn unig biau'r hawl i siarad.
9. Gall rhywun gael elw o aflwydd,a gall ennill droi'n golled.
10. Y mae math o roi nad yw'n dwyn elw iti,a math arall sy'n talu'n ddauddyblyg.
11. Gellir ymleihau wrth ymfawrhau,ond ceir hefyd rai a gododd yn uchel o ddinodedd.
12. Gall rhywun brynu llawer am bris bychan,a gorfod talu seithwaith amdanynt.
13. Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei wneud ei hun yn ffefryn,ond yn ofer y tywelltir gweniaith ffyliaid.
14. Nid yw rhodd y dwl o unrhyw werth iti,oherwydd y mae ganddo fwy nag un peth mewn golwg.
15. Ychydig y mae'n ei roi, ond yn edliw llawer,ac yn agor ei geg fel cyhoeddwr;rhoi benthyg heddiw, a gofyn amdano'n ôl yfory;cas gan bawb yw un o'r fath.
16. Dywed y ffŵl, “Nid oes gennyf gyfaill,ac nid oes diolch am fy nghymwynasau.”
17. Y rhai sy'n bwyta'i fara, drygair sydd ganddynt iddo;chwerthin am ei ben y bydd pawb, a hynny'n aml.
18. Gwell llithro ar balmant na llithro â'r tafod;fodd bynnag, buan y daw cwymp y drygionus.