5. Y mae un tawedog sy'n cael ei brofi'n ddoeth,ac y mae un arall a gaseir am ei fod yn siarad gormod.
6. Y mae un yn dawedog am nad oes ganddo ateb,ac un arall yn dawedog am ei fod yn gwybod pryd i siarad.
7. Y mae'r doeth yn tewi nes dyfod yr amser priodol,ond y mae'r broliwr ynfyd yn siarad pryd na ddylai.
8. Ffieiddir y sawl sy'n pentyrru gair ar air,a chaseir y sawl sy'n honni mai ef yn unig biau'r hawl i siarad.
9. Gall rhywun gael elw o aflwydd,a gall ennill droi'n golled.
10. Y mae math o roi nad yw'n dwyn elw iti,a math arall sy'n talu'n ddauddyblyg.
11. Gellir ymleihau wrth ymfawrhau,ond ceir hefyd rai a gododd yn uchel o ddinodedd.
12. Gall rhywun brynu llawer am bris bychan,a gorfod talu seithwaith amdanynt.
13. Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei wneud ei hun yn ffefryn,ond yn ofer y tywelltir gweniaith ffyliaid.
14. Nid yw rhodd y dwl o unrhyw werth iti,oherwydd y mae ganddo fwy nag un peth mewn golwg.
15. Ychydig y mae'n ei roi, ond yn edliw llawer,ac yn agor ei geg fel cyhoeddwr;rhoi benthyg heddiw, a gofyn amdano'n ôl yfory;cas gan bawb yw un o'r fath.