Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 20:23-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Y mae ambell un rhag cywilydd yn rhoi addewid i gyfaillac yn ei droi'n elyn yn ddiachos.

24. Bai drwg mewn rhywun yw celwydd:y mae beunydd ar enau'r diaddysg.

25. Dewisach lleidr na rhywun sy'n palu celwyddau,ond distryw fydd rhan y ddau.

26. Dygir anfri ar gymeriad rhywun celwyddog,a bydd ei gywilydd beunydd gydag ef.

27. Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei ddyrchafu ei hun,a rhywun o synnwyr yn rhyngu bodd mawrion.

28. Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn codi tas uchel,a'r sawl sy'n rhyngu bodd mawrion yn cael puredigaeth i'w gamwedd.

29. Y mae lletygarwch ac anrhegion yn dallu llygaid y doeth,ac fel rhwymyn ar safn yn atal cerydd.

30. Doethineb guddiedig a thrysor anweledig,pa fudd a geir o'r un o'r ddau?

31. Gwell rhywun sy'n cuddio'i ffolinebna rhywun sy'n cuddio'i ddoethineb.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 20