Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 20:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Os daw dameg o enau ffŵl fe'i gwrthodir,oherwydd nid yw byth yn ei hadrodd yn ei hiawn bryd.

21. Cedwir ambell un rhag pechu gan dlodi,a chaiff orffwys â chydwybod dawel.

22. Y mae ambell un yn ei ddifetha'i hun â'i swildod,neu â'r olwg ynfyd a geir arno.

23. Y mae ambell un rhag cywilydd yn rhoi addewid i gyfaillac yn ei droi'n elyn yn ddiachos.

24. Bai drwg mewn rhywun yw celwydd:y mae beunydd ar enau'r diaddysg.

25. Dewisach lleidr na rhywun sy'n palu celwyddau,ond distryw fydd rhan y ddau.

26. Dygir anfri ar gymeriad rhywun celwyddog,a bydd ei gywilydd beunydd gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 20