Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 20:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei wneud ei hun yn ffefryn,ond yn ofer y tywelltir gweniaith ffyliaid.

14. Nid yw rhodd y dwl o unrhyw werth iti,oherwydd y mae ganddo fwy nag un peth mewn golwg.

15. Ychydig y mae'n ei roi, ond yn edliw llawer,ac yn agor ei geg fel cyhoeddwr;rhoi benthyg heddiw, a gofyn amdano'n ôl yfory;cas gan bawb yw un o'r fath.

16. Dywed y ffŵl, “Nid oes gennyf gyfaill,ac nid oes diolch am fy nghymwynasau.”

17. Y rhai sy'n bwyta'i fara, drygair sydd ganddynt iddo;chwerthin am ei ben y bydd pawb, a hynny'n aml.

18. Gwell llithro ar balmant na llithro â'r tafod;fodd bynnag, buan y daw cwymp y drygionus.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 20