Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 20:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae cerydd sydd heb fod yn ei bryd,ac y mae rhywun tawedog sydd eto'n ddeallus.

2. Cymaint gwell yw ceryddu na dal dig!

3. A gyffeso'i fai a gedwir rhag niwed.

4. Fel eunuch yn chwenychu treisio morwyn,felly y mae rhywun a gais wneud cyfiawnder trwy drais.

5. Y mae un tawedog sy'n cael ei brofi'n ddoeth,ac y mae un arall a gaseir am ei fod yn siarad gormod.

6. Y mae un yn dawedog am nad oes ganddo ateb,ac un arall yn dawedog am ei fod yn gwybod pryd i siarad.

7. Y mae'r doeth yn tewi nes dyfod yr amser priodol,ond y mae'r broliwr ynfyd yn siarad pryd na ddylai.

8. Ffieiddir y sawl sy'n pentyrru gair ar air,a chaseir y sawl sy'n honni mai ef yn unig biau'r hawl i siarad.

9. Gall rhywun gael elw o aflwydd,a gall ennill droi'n golled.

10. Y mae math o roi nad yw'n dwyn elw iti,a math arall sy'n talu'n ddauddyblyg.

11. Gellir ymleihau wrth ymfawrhau,ond ceir hefyd rai a gododd yn uchel o ddinodedd.

12. Gall rhywun brynu llawer am bris bychan,a gorfod talu seithwaith amdanynt.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 20