Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 2:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ystyriwch y cenedlaethau gynt a daliwch sylw:Pwy erioed a ymddiriedodd yn yr Arglwydd a chael ei siomi?Neu pwy erioed a arhosodd yn ei ofn ef a chael ei wrthod?Neu pwy erioed a alwodd arno a chael i'r Arglwydd ei ddiystyru?

11. Oherwydd y mae'r Arglwydd yn dosturiol a thrugarog;y mae'n maddau pechodau ac yn achub yn amser cyfyngder.

12. Gwae'r calonnau llwfr a'r dwylo llesg,a'r pechadur sy'n ceisio dilyn dau lwybr!

13. Gwae'r galon lesg, am nad yw'n credu!Dyna'r rheswm na chaiff gysgod drosti.

14. Gwae chwi sydd wedi colli'r gallu i ymddál!Beth a wnewch pan ddaw'r Arglwydd i ymweld â chwi?

15. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, nid anufuddhânt byth i'w eiriau ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe gadwant at ei lwybrau.

16. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe geisiant ryngu ei fodd ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe'u llenwir â'r gyfraith.

17. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe baratoant eu calonnau,ac yn ei ŵydd ef fe'u darostyngant eu hunain.

18. “Syrthiwn,” meddant, “i ddwylo'r Arglwydd,ac nid i ddwylo dynol,oherwydd fel y mae ei fawrhydi,felly hefyd y mae ei drugaredd.”

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 2