Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 17:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Creodd yr Arglwydd bobl o'r ddaear,a'u hanfon yn ôl iddi hi drachefn.

2. Rhoddodd i bobl ddyddiau wrth rif, a thymor bywyd,a rhoes iddynt awdurdod dros bopeth ar y ddaear.

3. Gwisgodd hwy â nerth tebyg i'r eiddo'i hun;gwnaeth hwy ar ei ddelw ei hun.

4. Rhoes eu hofn ar bob creadur,a'u gwneud yn arglwyddi ar anifeiliaid ac adar.

6. Ewyllys, tafod a llygad,clust a meddwl, doniau Duw ydynt i roi dirnadaeth iddynt.

7. Llanwodd hwy â gwybodaeth a deall,a dangos iddynt dda a drwg.

8. Cadwodd ei olwg ar eu calonnau,i ddangos iddynt fawredd ei weithredoedd.

10. Clodforant hwy ei enw sanctaidd,gan fynegi mawredd ei weithredoedd.

11. Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth,a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.

12. Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy,a dangos iddynt ei ddyfarniadau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 17