Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 16:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. nac arbediad i'r bobl y trigai Lot yn eu plith,y rhai a ffieiddiwyd ar gyfrif eu balchder.

9. Nid oedd trugaredd i'r genedl a dynghedwyd i ddistryw,y bobl a ddilëwyd yn eu pechodau.

10. Yr un oedd tynged y chwe chan mil o wŷr traeda gasglwyd ynghyd yn llu herfeiddiol.

11. Pe na bai ond un gwargaled,rhyfeddod fyddai iddo fynd heb ei gosbi,oherwydd Duw biau trugaredd a digofaint,ac y mae'n nerthol i faddau, a hefyd i arllwys ei lid.

12. Fel y mae maint ei drugaredd, felly hefyd maint ei gerydd;caiff rhywun ei farnu ganddo yn ôl ei weithredoedd.

13. Ni chaiff pechadur ddianc gyda'i ysbail,ac ni phalla amynedd y duwiol.

14. Caiff pob gweithred o drugaredd ei chyfle,a phawb ei drin yn ôl ei weithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 16