Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 16:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â chwennych llond tŷ o blant da-i-ddim,nac ymhyfrydu mewn epil annuwiol.

2. Os bydd aelodau dy deulu yn amlhau,paid ag ymhyfrydu ynddynt oni fydd ofn yr Arglwydd ynddynt.

3. Paid ag ymddiried ym mywyd dy blant,na dibynnu ar eu rhif;oherwydd gwell un na miloedd,a marw'n ddi-blant na magu plant annuwiol.

4. Oherwydd gall dyn deallus godi dinas gyfanheddol,ond anialwch a grëir gan lwyth cyfan o bobl ddigyfraith.

5. Gwelais bethau felly'n aml â'm llygad fy hun,a chlywed â'm clust bethau gwaeth na'r rhain.

6. Lle'r ymgynnull pechaduriaid y cyneuir tân;mewn cenedl wrthryfelgar enynnir digofaint.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 16