Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 16:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â chwennych llond tŷ o blant da-i-ddim,nac ymhyfrydu mewn epil annuwiol.

2. Os bydd aelodau dy deulu yn amlhau,paid ag ymhyfrydu ynddynt oni fydd ofn yr Arglwydd ynddynt.

3. Paid ag ymddiried ym mywyd dy blant,na dibynnu ar eu rhif;oherwydd gwell un na miloedd,a marw'n ddi-blant na magu plant annuwiol.

4. Oherwydd gall dyn deallus godi dinas gyfanheddol,ond anialwch a grëir gan lwyth cyfan o bobl ddigyfraith.

5. Gwelais bethau felly'n aml â'm llygad fy hun,a chlywed â'm clust bethau gwaeth na'r rhain.

6. Lle'r ymgynnull pechaduriaid y cyneuir tân;mewn cenedl wrthryfelgar enynnir digofaint.

7. Nid oedd puredigaeth pechod i gewri'r amser gynt,a wrthgiliodd â'u holl nerth,

8. nac arbediad i'r bobl y trigai Lot yn eu plith,y rhai a ffieiddiwyd ar gyfrif eu balchder.

9. Nid oedd trugaredd i'r genedl a dynghedwyd i ddistryw,y bobl a ddilëwyd yn eu pechodau.

10. Yr un oedd tynged y chwe chan mil o wŷr traeda gasglwyd ynghyd yn llu herfeiddiol.

11. Pe na bai ond un gwargaled,rhyfeddod fyddai iddo fynd heb ei gosbi,oherwydd Duw biau trugaredd a digofaint,ac y mae'n nerthol i faddau, a hefyd i arllwys ei lid.

12. Fel y mae maint ei drugaredd, felly hefyd maint ei gerydd;caiff rhywun ei farnu ganddo yn ôl ei weithredoedd.

13. Ni chaiff pechadur ddianc gyda'i ysbail,ac ni phalla amynedd y duwiol.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 16