Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 15:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Llawenydd a choron gorfoledd fydd ei ran,ac enw tragwyddol fydd ei etifeddiaeth.

7. Ni chaiff rhai diddeall afael ar ddoethineb,ac ni chaiff y pechadurus ei gweld hi.

8. Pell yw hi oddi wrth falchder,ac ni chofia dynion celwyddog ddim amdani.

9. Nid gweddus moliant yng ngenau pechadur,oherwydd nis anfonwyd gan yr Arglwydd.

10. Trwy ddoethineb y mynegir mawl,a'r Arglwydd sy'n ei hyrwyddo.

11. Paid â dweud, “Yr Arglwydd a barodd imi gwympo”,oherwydd ti sydd i beidio â gwneud yr hyn sy'n gas ganddo ef.

12. Paid â dweud, “Ef a'm harweiniodd ar gyfeiliorn”,oherwydd nid oes angen y pechadurus arno ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 15