1. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd a wna hyn oll,a'r sawl sy'n dal gafael ar y gyfraith a gaiff ddoethineb.
2. Daw hi i'w gyfarfod fel mam;rhydd groeso iddo fel priodasferch ifanc.
3. Rhydd fara dealltwriaeth iddo'n ymborth,a dŵr doethineb yn ddiod.
4. Ynddi hi y bydd ei gadernid, ac nis syflir;ynddi hi y bydd ei gynhaliaeth, ac nis siomir.
5. Fe'i dyrchefir ganddi yn uwch na'i gymdogion,a chaiff ganddi air i'w draethu yng nghanol y gynulleidfa.
6. Llawenydd a choron gorfoledd fydd ei ran,ac enw tragwyddol fydd ei etifeddiaeth.
7. Ni chaiff rhai diddeall afael ar ddoethineb,ac ni chaiff y pechadurus ei gweld hi.