Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 14:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Rho, a derbyn, a difyrra dy hun,oherwydd ofer yw ceisio moethau yn Nhrigfan y Meirw.

17. Y mae pob un yn heneiddio fel dilledyn;y mae wedi ei bennu o'r dechreuad: “Marw fyddi.”

18. Fel dail toreithiog yn drwch ar bren,rhai'n cwympo a rhai'n blaguro,felly y mae cenedlaethau cig a gwaed—y naill yn marw a'r llall yn cael ei eni.

19. Pydru y mae pob gwaith, a pheidio â bod,ac y mae'r gweithiwr yntau'n mynd i ganlyn ei waith.

20. Gwyn ei fyd y sawl a fyfyria ar ddoethinebac a ddengys ei ddeall yn ei ymddiddan;

21. y sawl sy'n gosod ei fryd ar ei ffyrdd hia gaiff amgyffred hefyd ei chyfrinachau.

22. Dos ar ei hôl hi fel heliwr,a gosod fagl i'w dal yn ei llwybrau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 14