Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 14:13-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Cyn iti farw, bydd yn hael wrth dy gyfaill;estyn dy law a rho iddo gymaint ag a elli.

14. Paid â'th amddifadu dy hun o ddiwrnod o fwynhad,na cholli un dim o'r hyfrydwch yr wyt yn ei chwennych.

15. Onid gadael ffrwyth dy lafur a'th luddedi arall y byddi, i'w rannu â choelbren?

16. Rho, a derbyn, a difyrra dy hun,oherwydd ofer yw ceisio moethau yn Nhrigfan y Meirw.

17. Y mae pob un yn heneiddio fel dilledyn;y mae wedi ei bennu o'r dechreuad: “Marw fyddi.”

18. Fel dail toreithiog yn drwch ar bren,rhai'n cwympo a rhai'n blaguro,felly y mae cenedlaethau cig a gwaed—y naill yn marw a'r llall yn cael ei eni.

19. Pydru y mae pob gwaith, a pheidio â bod,ac y mae'r gweithiwr yntau'n mynd i ganlyn ei waith.

20. Gwyn ei fyd y sawl a fyfyria ar ddoethinebac a ddengys ei ddeall yn ei ymddiddan;

21. y sawl sy'n gosod ei fryd ar ei ffyrdd hia gaiff amgyffred hefyd ei chyfrinachau.

22. Dos ar ei hôl hi fel heliwr,a gosod fagl i'w dal yn ei llwybrau.

23. Y sawl sy'n sbïo trwy ei ffenestriac yn clustfeinio wrth ei drysau,

24. yn codi ei lety yn ymyl ei thÅ·ac yn ei hoelio wrth ei muriau hi,

25. caiff hwnnw osod ei babell gerllaw iddia lletya yn llety'r goreuon;

26. caiff osod ei blant dan ei chysgoda gorffwys dan ei changhennau.

27. Hi fydd ei gysgod rhag y gwres,a'i gogoniant hi fydd ei lety.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 14