1. Gwyn ei fyd y sawl na lithrodd yn ei ymadroddac na chafodd ei ddwysbigo gan ofid am ei bechodau.
2. Gwyn ei fyd y sawl na chafodd achos i'w gondemnio ei hunac na chollodd ei afael yn ei obaith.
3. I rywun crintachlyd nid lles mo'i gyfoeth;ac i gybydd, pa fudd ei feddiannau?
4. A helia oddi arno ef ei hun a helia i eraill;eraill a gaiff fyw'n foethus ar ei gyfoeth ef.
5. A fo'n greulon wrtho ef ei hun, wrth bwy y bydd yn dirion?Ni chaiff lawenydd fyth yn ei feddiannau.
6. Nid oes neb creulonach na'r sawl sy'n gybyddlyd ag ef ei hun;dyna'i wobr am ei grintachrwydd.
7. Hyd yn oed os yw'n hael, nid yw felly o fwriad,ac yn y diwedd amlygir ei grintachrwydd.
8. Creulon yw'r sawl sydd â llygad cybydd ganddo;y mae'n troi ei wyneb ymaith ac yn diystyru pobl eraill.
9. Nid yw llygad y trachwantus yn fodlon ar ei gyfran,ac y mae ei anghyfiawnder creulon yn crebachu ei enaid.
10. Y mae llygad creulon yn eiddigeddus am ei fara,a llwm yw'r bwrdd a hulia.