Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 13:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Pan fydd y cyfoethog yn llithro, daw llawer i'w gynorthwyo;er iddo lefaru geiriau anweddus, ei esgusodi a wnânt.Pan fydd y distadl yn llithro, ei geryddu y bydd pobl;er iddo siarad synnwyr, ni roddir cyfle iddo.

23. Pan fydd y cyfoethog yn llefaru, bydd pawb yn ddistaw,ac yn canmol ei araith hyd y cymylau.Pan fydd y tlawd yn llefaru, gofynnant, “Pwy yw hwn?”Ac os digwydd iddo faglu, rhônt help iddo i syrthio.

24. Da yw cyfoeth na chafodd pechod afael ynddo;ym marn yr annuwiol y mae tlodi yn ddrwg.

25. Y mae calon rhywun yn newid gwedd ei wyneb,naill ai i'w llonni neu i'w thristáu.

26. Y mae wyneb siriol yn arwydd o galon mewn hawddfyd,ond llafur poenus i'r meddwl yw llunio diarhebion.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 13