1. Y sawl sy'n cyffwrdd â phyg, fe'i baeddir,a'r sawl sy'n cymdeithasu â'r balch, fe â'n debyg iddo.
2. Paid â chodi baich sy'n rhy drwm iti,a phaid â chymdeithasu â rhywun cryfach a chyfoethocach na thi.Sut y mae llestr pridd i gymdeithasu â chrochan haearn,ac yntau o daro'r crochan yn chwalu'n chwilfriw?
3. Bydd y cyfoethog yn gwneud cam, ac ef fydd uchaf ei gloch;bydd yn tlawd yn cael cam, ac ef fydd yn crefu am bardwn.
4. Os gelli fod o les iddo, bydd y cyfoethog yn dy ddefnyddio;ond os byddi mewn angen, dy anwybyddu y bydd.
5. Os bydd rhywbeth gennyt wrth gefn, fe ddaw i fyw gyda thi,a'th ddisbyddu'n llwyr heb boeni dim.
6. Pan fydd arno d'eisiau, dy dwyllo a wna,a gwenu arnat a meithrin gobaith ynot;fe sieryd yn deg â thi a gofyn, “Beth sydd arnat ei eisiau?”
7. Fe gwyd gywilydd arnat â'i fwydydd ei hun,nes dy ddisbyddu'n llwyr ddwywaith neu dair;ac yn y diwedd bydd yn chwerthin am dy ben.Ar ôl hyn oll, pan wêl di, fe'th anwybydda,ac ysgwyd ei ben arnat.
8. Gwylia rhag dy gamarwainna'th ddarostwng yn dy ffolineb.
9. Paid â bod yn rhy barod i dderbyn gwahoddiad gan lywodraethwr,a bydd yntau gymaint â hynny'n daerach ei wahoddiad.
10. Paid ag ymwthio arno, rhag iddo dy wthio ymaith;ond paid â sefyll yn rhy bell, rhag iddo dy anghofio.
11. Paid â beiddio siarad ag ef fel un cydradd,a phaid ag ymddiried yn amlder ei eiriau,oherwydd rhoi prawf arnat y bydd â'i siarad hir,a'th chwilio a gwên ar ei wyneb.