Hen Destament

Testament Newydd

Doethineb Solomon 5:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Oherwydd y mae gobaith yr annuwiol fel us a yrrir gan y gwynt,ac fel barrug ysgafn a erlidir gan gorwynt;fe'i gwasgarwyd fel mwg gan y gwynt;aeth heibio fel atgof am ymwelydd unnos.

15. Ond y mae'r cyfiawn yn byw am byth;yng nghwmni'r Arglwydd bydd eu gwobr,a bydd gofal amdanynt gan y Goruchaf.

16. Dyna pam y derbyniant goron ysblennydd,dïadem hardd o law'r Arglwydd;ei ddeheulaw fydd yn eu gwarchod,a'i fraich fydd yn eu hamddiffyn.

17. Fe gymer ei eiddigedd yn arfwisg,a'r greadigaeth yn arfogaeth i fwrw ei elynion yn ôl.

18. Fe wisg gyfiawnder yn ddwyfronneg,a barn ddidwyll yn helm ar ei ben.

19. Fe gymer sancteiddrwydd yn darian anorchfygol,

Darllenwch bennod gyflawn Doethineb Solomon 5