1. Yna fe saif y cyfiawn yn llawn hyder, ac wynebu ei ormeswyra'r rhai sy'n diystyru ei gur.
2. O'i weld, fe'u hysgydwir gan ofn a dychryn,a'u drysu gan mor annisgwyl oedd ei ymwared.
3. Yn llawn edifeirwch dywedant y naill wrth y llall,gan ochneidio o gyfyngder ysbryd:
4. “Dyma'r un a fu gynt yn gyff gwawd i ni,ac yn ddihareb gan ein dirmyg ohono. Dyna ffyliaid oeddem,yn ystyried ei fuchedd yn wallgofrwydda'i ddiwedd yn warth!
5. Sut y cafodd ei gyfrif ymhlith plant Duw?Sut y mae cyfran iddo ymhlith y saint?
6. Dyma'r prawf inni fynd ar gyfeiliorn oddi ar ffordd y gwirionedd;ni thywynnodd goleuni cyfiawnder arnom ni,ac ni chododd yr haul arnom ni.
7. Cawsom ein gwala o rodio llwybrau digyfraith distryw,a theithio tiroedd diffaith, didramwy;ond ffordd yr Arglwydd, ni fynnem ei hadnabod.
8. Pa les i ni o'n balchder?Pa fudd o'n cyfoeth a'i rwysg?
9. Heibio yr aeth y rhain i gyd fel cysgod,fel negesydd ar frys yn rhuthro heibio;
10. fel llong ar ei ffordd trwy ymchwydd y môr,na ellir gweld ôl ei thramwy,na llwybr ei chilbren yn y tonnau;
11. neu fel aderyn, wedi iddo hedfan trwy'r awyr,nad oes yr un prawf o'i ehediad—y mae'n chwipio'r awyr denau â thrawiad ei esgyll,ac yn gwanu'r gwynt â grym ei gyrch,ac â gwth ei adenydd yn mynd ar ei daith,ond wedi hynny nid oes yno'r un arwydd o'i hynt.
12. Neu fel yr awyr—pan ollyngir saeth at nod—sy'n gwahanu a chau eilwaith, mor gyflymfel nad oes gwybod pa ffordd y tramwyodd y saeth.
13. Felly ninnau hefyd, dod a wnaethom, a darfod,ac nid oedd gennym yr un arwydd o rinwedd i'w ddangos;na, fe'n hafradwyd yn llwyr gan ein drygioni.”
14. Oherwydd y mae gobaith yr annuwiol fel us a yrrir gan y gwynt,ac fel barrug ysgafn a erlidir gan gorwynt;fe'i gwasgarwyd fel mwg gan y gwynt;aeth heibio fel atgof am ymwelydd unnos.
15. Ond y mae'r cyfiawn yn byw am byth;yng nghwmni'r Arglwydd bydd eu gwobr,a bydd gofal amdanynt gan y Goruchaf.
16. Dyna pam y derbyniant goron ysblennydd,dïadem hardd o law'r Arglwydd;ei ddeheulaw fydd yn eu gwarchod,a'i fraich fydd yn eu hamddiffyn.
17. Fe gymer ei eiddigedd yn arfwisg,a'r greadigaeth yn arfogaeth i fwrw ei elynion yn ôl.
18. Fe wisg gyfiawnder yn ddwyfronneg,a barn ddidwyll yn helm ar ei ben.
19. Fe gymer sancteiddrwydd yn darian anorchfygol,
20. a min ei ddicter llym yn gleddyf iddo.Daw'r bydysawd i'r frwydr gydag ef yn erbyn y rhai gwallgof.
21. Bydd bolltau'r mellt yn cyrchu'n ddi-feth at y nod;llamant ato fel saeth o fwa anelog y cymylau.
22. Lluchir cenllysg yn llawn dicter fel cerrig o daflydd.Bydd dŵr y môr yn ffyrnig yn eu herbyn,ac afonydd yn eu golchi ymaith yn ddidostur,
23. a gwynt nerthol yn codi yn eu herbynac yn eu chwythu ymaith fel corwynt.Diffeithir yr holl ddaear gan anhrefn,a dymchwelir gorseddau'r llywodraethwyr gan eu gweithredoedd drwg.