9. Peidied neb ohonom â bod heb ei gyfran o'n gloddesta;gadawn arwyddion ein rhialtwch ym mhobman,am mai dyma'n rhan a dyma'n cyfran.
10. Gorthrymwn y tlawd cyfiawn;peidiwn ag arbed y weddw;gwrthodwn barchu hirhoedledd penwyn yr henwr.
11. I ni boed grym yn gyfraith cyfiawnder,am inni brofi bod gwendid yn gwbl ddi-fudd.
12. Gosodwn fagl ar gyfer y cyfiawn, am iddo sefyll ar ein ffordda rhwystro ein gweithgareddau;y mae'n edliw i ni ein troseddau yn erbyn y gyfraith,ac yn dannod i ni ein troseddau yn erbyn ein magwraeth.
13. Y mae'n honni bod ganddo wybodaeth o Dduw,ac yn ei alw ei hun yn blentyn yr Arglwydd.
14. Fe'i cawsom yn gerydd ar ein cynlluniau,a gwrthun i ni yw hyd yn oed edrych arno.
15. Oherwydd annhebyg yw yn ei fuchedd i bawb arall,a chwbl ar wahân yw ei lwybrau.
16. Cyfrifwyd ni ganddo yn arian gau,a'n rhodiad yn aflendid i ymochel rhagddo.Gwynfydedig y geilw ef ddiwedd y rhai cyfiawn,a'i ymffrost yw fod Duw yn dad iddo.
17. Gadewch inni weld ai gwir yw ei eiriau,a rhown brawf ar yr hyn a ddigwydd ar ei ymadawiad.
18. Oherwydd os yw'r cyfiawn yn blentyn i Dduw, caiff gymorth ganddo,a'i waredu o ddwylo'i elynion.