Hen Destament

Testament Newydd

Doethineb Solomon 2:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fe'i cawsom yn gerydd ar ein cynlluniau,a gwrthun i ni yw hyd yn oed edrych arno.

15. Oherwydd annhebyg yw yn ei fuchedd i bawb arall,a chwbl ar wahân yw ei lwybrau.

16. Cyfrifwyd ni ganddo yn arian gau,a'n rhodiad yn aflendid i ymochel rhagddo.Gwynfydedig y geilw ef ddiwedd y rhai cyfiawn,a'i ymffrost yw fod Duw yn dad iddo.

17. Gadewch inni weld ai gwir yw ei eiriau,a rhown brawf ar yr hyn a ddigwydd ar ei ymadawiad.

18. Oherwydd os yw'r cyfiawn yn blentyn i Dduw, caiff gymorth ganddo,a'i waredu o ddwylo'i elynion.

19. Holwn ef ag artaith a dirboen,inni gael mesur ei diriondeba dyfarnu ar ei oddefgarwch.

20. Dedfrydwn ef i farwolaeth gywilyddus;oherwydd daw gwaredigaeth iddo, yn ôl ei eiriau ef.”

21. Dyna'u hymresymiad, ond aethant ar gyfeiliorn,am i'w drygioni eu dallu.

22. Nid oedd ganddynt wybodaeth am ddirgelion Duw,na gobaith am wobr sancteiddrwydd,nac amcan am fraint eneidiau di-fai;

23. oherwydd mewn anllygredigaeth y creodd Duw ddyna'i wneud ar ddelw ei dragwyddoldeb ef ei hun.

24. Ond trwy genfigen y diafol y daeth angau i'r byd,ac y mae'r rhai sydd o'i blaid ef yn cael profiad ohono.

Darllenwch bennod gyflawn Doethineb Solomon 2