8. am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc,ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.
9. Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol,ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd,i'w gondemnio am ei droseddau.
10. Oherwydd y mae clust eiddigus yn clywed popeth;nid oes na siw na miw a gollir.
11. Gochelwch, felly, rhag grwgnach anfuddiol,a chadwch eich tafod rhag athrod;oherwydd ni fydd gair llechwraidd heb ei ganlyniad,a lladd yr enaid y mae genau celwyddog.
12. Peidiwch â chwennych marwolaeth trwy fyw ar gyfeiliorn,na thynnu distryw ar eich pennau trwy weithredoedd eich dwylo.
13. Oherwydd nid gwaith Duw yw marwolaeth,ac nid yw'n hyfrydwch ganddo ef weld y byw yn darfod.
14. Pwrpas y creu oedd rhoi bod i bob peth,a phwerau creadigol y byd yw ei iechyd;nid oes ynddynt wenwyn marwol,na chyfle i angau deyrnasu ar y ddaear.
15. Y mae cyfiawnder yn anfarwol,
16. ond ar air a gweithred gwahoddodd yr annuwiol angau i'w plith;gan iddynt ei ystyried yn gyfaill, darfu amdanynt.Gwnaethant gyfamod ag ef,oherwydd teilwng ydynt o fod yn bartneriaid iddo.