Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Doethineb Solomon 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ceisio Duw ac Ymwrthod â Drygioni

1. Carwch gyfiawnder, chwi lywodraethwyr y ddaear;meddyliwch am yr Arglwydd ag ewyllys da,a cheisiwch ef o lwyrfryd calon.

2. Fe'i ceir gan y rhai na fynnant ei herio;y mae'n ymddangos i'r rhai na fynnant anghredu ynddo.

3. Oherwydd y mae cynlluniau gwyrgam yn ein gwahanu oddi wrth Dduw,ac o'i roi ar brawf y mae'r Hollalluog yn dinoethi'r ynfyd.

4. Ni chaiff doethineb ddod i mewn i'r enaid dichellgarnac ymgartrefu mewn corff sy'n wystl i bechod.

5. Bydd ysbryd sanctaidd addysg yn ffoi oddi wrth dwyll,ac yn cilio ymhell oddi wrth gynlluniau anneallus,ac yn cywilyddio pan ddaw anghyfiawnder i'r golwg.

6. Ysbryd dyngarol yw doethineb,ond ni all ddyfarnu'n ddieuog un sy'n cablu â'i wefusau,am fod Duw'n dyst o'i deimladau dyfnaf,yn archwiliwr cywir o'i feddyliauac yn wrandawr ar ei eiriau.

7. Gan fod ysbryd yr Arglwydd wedi llenwi'r holl fyd,a'r ysbryd sy'n dal y cyfanfyd ynghyd yn adnabod pob llais,

8. am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc,ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.

9. Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol,ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd,i'w gondemnio am ei droseddau.

10. Oherwydd y mae clust eiddigus yn clywed popeth;nid oes na siw na miw a gollir.

11. Gochelwch, felly, rhag grwgnach anfuddiol,a chadwch eich tafod rhag athrod;oherwydd ni fydd gair llechwraidd heb ei ganlyniad,a lladd yr enaid y mae genau celwyddog.

12. Peidiwch â chwennych marwolaeth trwy fyw ar gyfeiliorn,na thynnu distryw ar eich pennau trwy weithredoedd eich dwylo.

13. Oherwydd nid gwaith Duw yw marwolaeth,ac nid yw'n hyfrydwch ganddo ef weld y byw yn darfod.

14. Pwrpas y creu oedd rhoi bod i bob peth,a phwerau creadigol y byd yw ei iechyd;nid oes ynddynt wenwyn marwol,na chyfle i angau deyrnasu ar y ddaear.

15. Y mae cyfiawnder yn anfarwol,

16. ond ar air a gweithred gwahoddodd yr annuwiol angau i'w plith;gan iddynt ei ystyried yn gyfaill, darfu amdanynt.Gwnaethant gyfamod ag ef,oherwydd teilwng ydynt o fod yn bartneriaid iddo.