8. am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc,ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.
9. Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol,ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd,i'w gondemnio am ei droseddau.
10. Oherwydd y mae clust eiddigus yn clywed popeth;nid oes na siw na miw a gollir.
11. Gochelwch, felly, rhag grwgnach anfuddiol,a chadwch eich tafod rhag athrod;oherwydd ni fydd gair llechwraidd heb ei ganlyniad,a lladd yr enaid y mae genau celwyddog.
12. Peidiwch â chwennych marwolaeth trwy fyw ar gyfeiliorn,na thynnu distryw ar eich pennau trwy weithredoedd eich dwylo.
13. Oherwydd nid gwaith Duw yw marwolaeth,ac nid yw'n hyfrydwch ganddo ef weld y byw yn darfod.