Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. ac rwyf wedi persawru fy ngwelyâ myrr, aloes a sinamon.

18. Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore,a chael mwynhad wrth garu.

19. Oherwydd nid yw'r gŵr gartref;fe aeth ar daith bell.

20. Cymerodd god o arian gydag ef,ac ni fydd yn ôl nes y bydd y lleuad yn llawn.”

21. Y mae'n ei ddenu â'i pherswâd,ac yn ei hudo â'i geiriau gwenieithus.

22. Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi,fel ych yn mynd i'r lladd-dy,fel carw yn neidio i'r rhwyd

23. cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw,fel aderyn yn hedeg yn syth i'r faglheb wybod fod ei einioes mewn perygl.

24. Yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a rhowch sylw i'm geiriau.

25. Paid â gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd,a phaid â chrwydro i'w llwybrau;

26. oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain,a lladdwyd nifer mawr ganddi.

27. Ffordd i Sheol yw ei thŷ,yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 7