Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy mab, cadw fy ngeiriau,a thrysora fy ngorchmynion.

2. Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw,a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad.

3. Rhwym hwy am dy fysedd,ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

4. Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”,a chyfarch ddeall fel câr,

5. i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr,a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.

6. Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ,yn edrych allan trwy'r dellt

7. ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion;a gwelais yn eu plith un disynnwyr

8. yn mynd heibio i gornel y stryd,ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ

9. yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.

10. Daeth dynes i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—

11. un benchwiban a gwamal,nad yw byth yn aros gartref,

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 7