Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 4:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;ni wyddant beth sy'n eu baglu.

20. Fy mab, rho sylw i'm geiriau,a gwrando ar fy ymadrodd.

21. Paid â'u gollwng o'th olwg;cadw hwy yn dy feddwl;

22. oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael,ac yn iechyd i'w holl gorff.

23. Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl,oherwydd oddi yno y tardd bywyd.

24. Gofala osgoi geiriau twyllodrus,a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.

25. Cadw dy lygaid yn unionsyth,ac edrych yn syth o'th flaen.

26. Rho sylw i lwybr dy droed,i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 4