Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 4:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Paid â dilyn llwybr y drygionus,na cherdded ffordd pobl ddrwg;

15. gochel hi, paid â'i throedio,tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.

16. Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.

17. Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,ac yn yfed gwin gormes.

18. Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.

19. Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;ni wyddant beth sy'n eu baglu.

20. Fy mab, rho sylw i'm geiriau,a gwrando ar fy ymadrodd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 4