Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:22-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

23. Fel golchiad arian ar lestr pridd,felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus.

24. Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau,ac yn cynllunio twyll yn ei galon;

25. pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo,oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;

26. er iddo guddio'i gasineb â rhagrith,datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.

27. Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.

28. Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb,a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26