Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl.

2. Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,felly ni chyflawnir melltith ddiachos.

3. Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid!

4. Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag i ti fynd yn debyg iddo.

5. Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6. Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵlyn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.

7. Fel coesau'r cloff yn honcian,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

8. Fel gosod carreg mewn ffon dafl,felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.

9. Fel draenen yn mynd i law meddwyn,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

10. Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio,felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn.

11. Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog,felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb.

12. Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun;y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.

13. Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,llew yn rhydd yn y strydoedd!”

14. Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,felly y mae'r diog yn ei wely.

15. Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.

16. Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hunna saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.

17. Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26