Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 24:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Rho drefn ar dy waith y tu allan,a threfna'r hyn sydd yn dy gae,ac yna adeilada dy dŷ.

28. Paid â thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos,na thwyllo â'th eiriau.

29. Paid â dweud, “Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi;talaf iddo yn ôl ei weithred.”

30. Euthum heibio i faes un diog,ac i winllan un disynnwyr,

31. a sylwais eu bod yn llawn drain,a danadl drostynt i gyd,a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.

32. Edrychais arnynt ac ystyried;sylwais a dysgu gwers:

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 24