Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 24:19-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Na fydd ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

20. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg,a diffoddir goleuni'r drygionus.

21. Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin;paid â bod yn anufudd iddynt,

22. oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt,a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?

23. Dyma hefyd eiriau'r doethion:Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.

24. Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”,fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.

25. Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad,a daw gwir fendith arnynt.

26. Y mae rhoi ateb gonestfel rhoi cusan ar wefusau.

27. Rho drefn ar dy waith y tu allan,a threfna'r hyn sydd yn dy gae,ac yna adeilada dy dŷ.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 24