Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

10. Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.

11. Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.

12. Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.

13. Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.

14. Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21