Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarna bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.

23. Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.

24. Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,gweithreda yn gwbl drahaus.

25. Y mae blys y diog yn ei ladd,am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.

26. Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser,ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.

27. Ffiaidd yw aberth y drygionus,yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.

28. Difethir y tyst celwyddog,ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.

29. Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.

30. Nid yw doethineb na deall na chyngoryn ddim o flaen yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21