Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwchyn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.

22. Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarna bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.

23. Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.

24. Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,gweithreda yn gwbl drahaus.

25. Y mae blys y diog yn ei ladd,am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.

26. Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser,ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21