Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.

16. Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deallyn gorffwys yng nghwmni'r meirw.

17. Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.

18. Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn,a'r twyllwr dros y rhai uniawn.

19. Gwell byw mewn anialwchna chyda gwraig gecrus a dicllon.

20. Yn nhÅ·'r doeth y mae trysor dymunol ac olew,ond y mae'r ffôl yn eu difa.

21. Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwchyn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21