1. Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr;fe'i try i ble bynnag y dymuna.
2. Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun,ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
3. Y mae gwneud cyfiawnder a barnyn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4. Llygaid balch a chalon ymffrostgar,dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
5. Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
6. Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwyddfel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.
7. Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
8. Troellog yw ffordd y troseddwr,ond uniawn yw gweithred y didwyll.
9. Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10. Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
11. Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
12. Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
13. Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
14. Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
15. Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
16. Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deallyn gorffwys yng nghwmni'r meirw.