Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 18:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn,nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.

18. Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon,ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.

19. Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn,a chwerylon fel bollt castell.

20. O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un,a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu.

21. Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd,ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.

22. Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioniac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD.

23. Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar,ond y cyfoethog yn ateb yn arw.

24. Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai;ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 18